Tag: Cymraeg

  • Llygredd plastig yng Nghymru

    Llygredd plastig yng Nghymru

    Rôl Cymru mewn llygredd plastig

    Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad ar lygredd plastig. Mae’n gwneud deuddeg argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella ein perfformiad amgylcheddol, gan gynnwys:

    • Deddfwriaeth i gyfyngu microplastigion
    • Creu strategaeth 10 mlynedd gyda’r nod o leihau llygredd plastig
    • Gweithredu cynllun cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig ar gyfer plastig
    • Gweithredu Cynllun Dychwelyd Adnau

    Gwahoddwyd ein partner, David Clubb, i Radio Cymru i drafod argymhellion yr adroddiad. Mae’r recordiad, gan gynnwys cyfieithiad Saesneg, isod